Fe safai'n Harchoffeiriad
Rhwng euog fyd a'r Tad,
A rhoddai'i Hun yn bridwerth
O'i wirfodd, heb nacād;
Fe ddaeth yn mlaen ā'i aberth,
Fe'i hoeliodd ar y pren,
Agorodd, trwy ei haeddiant,
Holl ddrysau'r nefoedd wen.
A thyma'r Angel cadarn
Sy'n sefyll uwch y nen,
A'r gwregys am ei lwynau,
A'r meitr am ei ben;
Yn dal y thuser sanctaidd
Sydd o aroglau'n llawn,
A'r tarth yn codi' fyny
O fore hyd brydnawn.
Mi rof fy nwylaw bellach
Ar ben yr Aberth mawr;
Mi rifaf yno'n gryno
Fy holl bechodau i lawr:
A'm dagrau hallt mi olchaf
Draed fy Iachawdwr Crist,
Y traed mor fuan redodd
I achub f'enaid trist.
- - - - -
Fe safai'n Harchoffeiriad
Rhwng euog fyd a'r Tad,
A rhoddai'i Hun yn bridwerth
O'i wirfodd, heb nacād;
Fe ddaeth yn mlaen ā'i aberth,
Fe'i hoeliodd ar y pren,
Agorodd, trwy ei haeddiant,
Holl ddrysau'r nefoedd wen.
A dyma'r peraroglau
Sy'n codi'n darth yn awr,
I arogli'n beraidd hyfryd
Yn ffroenau Brenin mawr:
Y Tad a fynai'i ddryllio
Er iachawdwriaeth dyn,
I arbed meibion dynion,
Ffordd arall nid oedd un.
Efe yw'm Harchoffeiriad
Sy uwch y nefoedd fry,
Mewn harddwch a gogoniant,
Mwy na'r angelaidd lu;
Ac ynddo mae fy ngobaith
Wrth deimlo meiau'n drwm,
A phan f'ont yn fy ngwasgu
Fel mynydd mawr o blwm.
William Williams 1717-91
[Mesur: 7676D] gwelir: Ei waith fel Archoffeiriad Mi bwysaf arnat Arglwydd Mi ro'f fy nwylaw bellach O dyma'r Archoffeiriad |
Our High Priest stood
Between a guilty world and the Father,
Who gave Himself as a ransom
Voluntarily, without refusal;
He brought forward his sacrifice,
He nailed it to the tree,
He opened, through his merit,
All the doors of bright heaven.
And behold the firm Angel
Who is standing above the sky,
With the belt about his loins,
And the mitre about his head;
Holding his holy censer
Which is of scents full,
And the smoke rising up
From morning until evening.
I will put my hands now
On the head of the great Sacrifice;
I will number there trembling
All my sins down:
With my salt tears I will wash
The feet of my Saviour Christ,
The feet which so soon ran
To save my sad soul.
- - - - -
Our High Priest stood
Between a guilty world and the Father,
And gave Himself as a ransom
Voluntarily, without refusal;
He brought forward his sacrifice,
He nailed it to the tree,
He opened, through his merit,
All the doors of bright heaven.
And here are the sweet scents
Which are rising as smoke now,
To smell delightfully sweet
In the nostrils of the great King:
The Father insisted on smashing him
For the sake of the salvation of man,
To save the sons of men,
No other way there was.
He is my High Priest
Who is higher than the heavens above,
In beauty and glory,
Greater than the angelic host;
And in him is my hope
While feeling my heavy faults,
And when they be pressing on me
Like a great mountain of lead.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|